DATGANIAD I'R WASG
O.w.: Y Gyngres Geltaidd Ryngwladol, Cangen Cymru
Testun: Llen a diwylliant y gwledydd Celtaidd yn yr 20fed ganrif
Cyh. Y Gyngres Geltaidd Ryngwladol, 1997
ISBN 0 9530793 0 9
English version
Lansiwyd casgliad o erthyglau dan y teitl Celtic Literature and Culture in the Twentieth Century yng nghynhadledd Y Gyngres Geltaidd Ryngwladol yn Nulyn yn ystod yr haf, 1997. Cynnwys y gyfrol yw'r anerchiadau a draddodwyd yng nghynhadledd Bangor, 1996.
Ceir dau gyfraniad gan Gernyw, un gan Richard Jenkin, aelod o Orsedd Beirdd Cernyw, sy'n ymdrin ag ysgrifennu yn yr iaith Gernyweg yn y ganrif hon. Rhydd Alan Kent, o Ganolfan Astudiaethau Cernyw, ddisgrifiad hanesyddol o lenyddiaeth yn y tair iaith, sef y Gernyweg, Saesneg a thafodiath Saesneg Cernyw.
Y mae Ninnog-Latimer-Kervella yn adolygu datblygiad llenyddiaeth Llydaw, gan ddechrau gyda Barzaz Breizh, casgliad dylanwadol o làn gwerin a wnaed ar ddiwedd y ganrif ddiwethaf, ac yn olrhain symudiadau'r ganrif hon.
Y nofelydd enwog Marion Eames yw cynrychiolydd Cymru. Llenor proffesiynol ei hunan, ym myd cyhoeddi a darlledu, sonia am ddisgleirdeb llàn Cymru yn yr ganrif hon.
Hiwmor yw un o nodweddion cyfraniad Tadhg O'Dushlane, darlithydd yng Ngholeg Maynooth. Datgela teitl ei sgwrs, "The Hippieization of the Gael and vice versa", mai dylanwad chwyldro'r chwedegau ar lenyddiaeth yn yr iaith Aeleg yw testun ei erthygl.
Amlinella Brian Stowell hanes dirywiad ac adfywiad yr iaith Fanaweg. Y mae'r awdur ei hun wedi cyfrannu mwy na neb at adfywiad diwylliant yr ynys, ac at sicrhau lle i'r iaith mewn addysg. Yn wyneb yr ystadegau y cyfeiria atynt, y mae'r erthygl yn dyst i ddycnwch ieithoedd Celtaidd Prydain yn eu brwydr i oroesi.
Pwyslais erthygl Joan MacDonald yw cyhoeddi yn yr iaith Aeleg yn yr Alban. Cyfeiria at ddau fath o farddoniaeth Aeleg, sef y gwaith sy'n glynu at y dulliau cyfansoddi traddodiadol, a chyhoeddiadau "proffeil uchel" y beirdd modern. Cyfeiria at lenorion o fri, megis Sorley MacLean, Iain Crichton Smith a Derick Thomson, ond hefyd at rai sydd wedi dysgu'r Aeleg, ac sydd yn cyfrannu at lenyddiaeth Aeleg erbyn hyn.
Cynhyrchwyd y llyfr gan Gangen Cymru'r Gyngres Geltaidd Ryngwladol. Gellir ei brynu mewn rhai siopau llyfrau, pris £4.50, neu drwy'r post, £5.00, tramor £6.50, gan gynnwys cludiant, oddi wrth:
Eurwen Price, Y Garn, Swansea Road, Llewitha,
Fforestfach, Abertawe SA5 4NR. Ffôn: +44 1792 421315.
Dylid gwned sieciau'n daladwy i Y Gyngres Geltaidd, Cangen Cymru.
|